Creu Mapiau
Diolch o galon i Alexandra Costache o Creative Lab am arwain sesiynau gwych creu mapiau yn ein stiwdio heddiw.
Bu ein hartistiaid ifanc yn archwilio’r holl bethau sy’n gwneud Bae Colwyn yn lle arbennig, gan ddathlu’r lleoedd, y bobl a’r atgofion sy’n bwysig iddyn nhw, ac ar yr un pryd defnyddio’u dychymyg i ychwanegu syniadau newydd ar gyfer y dref.
Roedd hi’n hyfryd gweld Bae Colwyn drwy lygaid y bobl ifanc greadigol anhygoel hyn. Mae eu syniadau, eu gwaith celf a’u brwdfrydedd wedi bod yn ysbrydoledig. Diolch, Alex, am rannu dy greadigrwydd ac am helpu i ddod â’u syniadau’n fyw!
Byddwn yn creu rhagor o fapiau yr wythnos nesaf, ac allwn ni ddim aros i arddangos y map cymunedol sy’n tyfu o wythnos i wythnos yn ein Diwrnod Dathlu Cymunedol ddydd Sul 30 Awst. Mae croeso cynnes i bawb ddod draw i weld y gwaith celf a dathlu creadigrwydd ein cymuned gyda ni!
- Plentyn yn dangos ei llun wedi'i baentio, gan ddefnyddio lliwiau fel pinc a glas.
- Llun o fap o Fae Colwyn y mae rhywun wedi'i dynnu a'i beintio.
- Plentyn yn dangos llun mae hi wedi tynnu a'i liwio gan ddefnyddio amrywiaeth o liwiau.
- Plant yn cael hwl yn lliwio ac yn creu lluniau
- Casgliad o luniau mae pobl wedi creu
- Plant ac oedolion yn cael hwyl yn darlunio a lliwio lluniau.
- Golwg agos o gardyn gyda cloc yn y canol a stryd yn y cefndir
Subscribe to our Mailing List
Sign up with your email address to receive news and updates.







